
Cwynion
Os nad ydych chi'n hapus ag unrhyw ran o'n Gwasanaeth Cwnsela neu os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau ar ffyrdd y gallem ni wella, yna hoffem glywed gennych chi.
Byddwn yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod eich amser gyda ni yn ddiogel ac yn barchus. Os ydych chi'n teimlo nad yw hyn yn wir, yna gallwch chi wneud rhywbeth amdano drwy ddilyn y canllawiau hyn:
Gallwch siarad yn uniongyrchol â'ch cwnselydd.
Neu gallwch ddewis ffonio, anfon neges destun neu e-bost atom gyda'ch adborth (mae yna hefyd yr opsiwn o ofyn i berson arall gysylltu â ni ar eich rhan).
Rydym yn addo gwrando arnoch chi a gwneud pob ymdrech i ddatrys cwynion a/neu weithredu awgrymiadau, gan eich cadw'n wybodus bob cam o'r ffordd.
Ffôn: 01443 202940
Testun: 07873 434322
E-bost: info@eyetoeye.wales
Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch cwnsela neu gwnselwyr, gallwch gael gwybodaeth gan Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain ar 0870 443 5252 neu edrychwch ar-lein yn www.bacp.co.uk.